Dod o hyd i broblemau y mae cymorth cyfreithiol yn delio â nhw
Dyma’r problemau y mae cymorth cyfreithiol yn delio â nhw. Dewiswch pa broblem y mae angen cymorth arnoch chi i ddelio ag o.
Plant, teuluoedd, perthnasoedd
Mae hyn yn cynnwys, plant mewn gofal, plant, a gwasanaethau cymdeithasol. Yn ogystal â chymorth ariannol a chymorth gyda phlant os ydych chi’n ysgaru neu’n gwahanu.
Tai, digartrefedd, colli eich cartref
Mae hyn yn cynnwys cael eich troi allan neu gael eich gorfodi i werthu eich cartref. Problemau gyda landlordiaid, gwaith atgyweirio, cymdogion, neu dai cyngor.
Cam-drin domestig
Mae hyn yn cynnwys ymddygiad rheolaethol, cam-drin emosiynol, neu os oes rhywun yn aflonyddu, yn eich bygwth neu eich brifo chi neu eich plentyn. Gall hyn fod yn bartner, cyn-bartner, neu aelod o’r teulu.
Gwahaniaethu
Wedi cael eich trin yn annheg oherwydd pethau fel eich anabledd neu gyflwr iechyd, hil, oed, rhyw, crefydd neu feichiogrwydd.
Anghenion addysgol arbennig ac anableddau (SEND)
Cymorth os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig ac anableddau.
Anghenion gofal ar gyfer anabledd a henaint (gofal cymdeithasol)
Problemau wrth gael yr awdurdod lleol neu’r cyngor i ddarparu neu dalu am y gofal cywir. Ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion.
Budd-daliadau
Apelio penderfyniadau am eich budd-daliadau.
Camau cyfreithiol yn erbyn yr heddlu a sefydliadau cyhoeddus
Mae hyn yn cynnwys yr heddlu, y llywodraeth, carchardai, y GIG, cyfleusterau gofal, ac ysgolion.
Lloches a mewnfudo
Cymorth os ydych chi’n ceisio lloches. Cymorth i aros yn y Deyrnas Unedig os ydych chi wedi profi cam-drin domestig.
Galluedd meddyliol, iechyd meddwl
Cymorth os nad yw rhywun yn gallu gwneud penderfyniadau am eu hiechyd, bywyd o ddydd i ddydd na gofal. Cymorth mewn tribiwnlysoedd iechyd meddwl.