Cysylltu â’r Cyngor Cyfreithiol Sifil
Bydd y Cyngor Cyfreithiol Sifil yn gwirio a allwch gael cymorth cyfreithiol ac yn eich helpu i gysylltu â’r cynghorydd cyfreithiol cywir. Os na allwch gael cymorth cyfreithiol, byddwn yn dweud wrthych am help arall y gallwch ei gael.
Gallwch chi alw Cyngor Cyfreithiol Sifil eich hun – mae hon yn rhif 0345, felly bydd tâl galwad. Neu mi allwch chi ofyn i ni alw chi yn ôl, sydd am ddim.
Byddwn yn gofyn cwestiynau am eich problem gyfreithiol a’ch sefyllfa ariannol. Efallai y byddwch angen rhoi tystiolaeth am unrhyw wybodaeth ariannol a roddir.
Mae diogelu’ch data personol a phreifatrwydd yn bwysig i ni. Darllennwch y Datganiad Preifatrwydd Cyngor Cyfreithiol Sifil.